NESO launches consultation to shape future Regional Energy…
14 Nov 2025 - 3 minute read
Sign in to add this page to your favourites
Sign in or registerSign in or register to manage your favourites
Sign in or register
Mae NESO wedi lansio ymgyngoriad newydd sy’n gwahodd cwsmeriaid a rhanddeiliaid ar draws Prydain i helpu i siapio’r fethodoleg (y dull) a fydd yn helpu i gyflwyno set o Gynlluniau Ynni Strategol Rhanbarthol (RESP). Bydd y cynlluniau'n cefnogi ac yn galluogi'r trawsnewidad ynni ar draws ein cenhedloedd a'n rhanbarthau.
O 17 Tachwedd 2025 i 16 Ionawr 2026, mae'r ymgynghoriad methodoleg yn chwilio am ymatebion gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid yng Nghymru a'r Alban ac mewn naw rhanbarth yn Lloegr, ar sut dylid cynllunio, datblygu ac integreiddio Cynlluniau Ynni Strategol Rhanbarthol y dyfodol i fframwaith cynllunio ynni strategol cyffredinol Prydain. Bydd y Cynlluniau Ynni Strategol Rhanbarthol yn gweithio gyda'r Cynllun Ynni Strategol Gofodol a’r Cynllun Rhwydwaith Strategol Canolog i sicrhau dyfodol ynni diogel, fforddiadwy a chynaliadwy sy'n rhoi lle canolog ar werth i gwsmeriaid.
Cynllunio ar gyfer dyfodol ynni Prydain
Mae cynllunio ynni strategol rhanbarthol yn gam sylfaenol yn uchelgeisiau NESO i gyflawni dull system gyflawn o ran cynllunio ynni strategol ym Mhrydain.
Mae rôl cynllunio strategol ynni rhanbarthol wedi'i sefydlu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y cenhedloedd a'r rhanbarthau, gan ganolbwyntio ar y rhwydweithiau dosbarthu trydan a nwy. Ar hyn o bryd mae'r rhwydweithiau hyn yn cael eu cynllunio ar wahân. Drwy symud i ddull system gyfan cydgysylltiedig, gellir cyflymu’r cynnydd tuag at sero net.
Bydd cynlluniau ynni strategol NESO yn hyrwyddo twf economaidd ac yn nodi buddsoddiadau sydd eu hangen ar gyfer y trawsnewid ynni ym Mhrydain. Mae cynllunio ynni strategol rhanbarthol yn rhan o weithgarwch cynllunio ynni strategol ehangach NESO ac yn canolbwyntio ar ystyriaethau lleol o fewn ein cenhedloedd a'n rhanbarthau. Bydd yr 11 Cynllun Ynni Strategol Rhanbarthol yn ategu cynlluniau strategol eraill NESO ledled Prydain, fel y Cynllun Ynni StrategolGofodol a'r Cynllun Rhwydwaith Strategol Canolog a llwybrau Senarios Ynni'r Dyfodol.
Am y tro cyntaf erioed ym Mhrydain, drwy gynllunio ynni strategol rhanbarthol, byddwn yn ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid lleol i ddeall y blaenoriaethau a'r anghenion allweddol o fewn y cenhedloedd a'r rhanbarthau. Byddwn yn defnyddio data lleol i nodi'r dull o gynllunio ein systemau ynni yn y dyfodol.
Bydd cynlluniau ynni strategol NESO i gyd yn llywio'r cynlluniau busnes a ddatblygwyd gan rwydweithiau dosbarthu nwy a thrydan, gan sicrhau cysondeb rhwydweithiau ac sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol.
“I gyflawni uchelgeisiau pob rhan o Brydain a gwneud y dewisiadau iawn i ddiwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol, mae angen cynlluniau ynni strategol rhanbarthol arnom ni sy’n gallu adlewyrchu blaenoriaethau lleol ar draws pob cenedl a rhanbarth.
Mae sefydlu methodoleg gadarn ar gyfer y set gyntaf hon o un ar ddeg o gynlluniau yn hollbwysig i sicrhau ein bod yn cadw lleisiau lleol yn ganolog i sut rydyn ni’n cynllunio systemau ynni’r dyfodol yn strategol. Bydd y Cynlluniau Ynni Strategol Rhanbarthol yn chwarae rôl allweddol wrth helpu i sefydlu system ynni ddiogel, fforddiadwy a glân, un sy'n sail i dwf economaidd a chynaliadwyedd mewn cymunedau ledled Prydain.”
Unwaith y daw’r ymgynghoriad methodoleg i ben ar 16 Ionawr 2026, bydd adborth cwsmeriaid a rhanddeiliaid yn cael ei ddadansoddi a bydd NESO yn cynhyrchu’r fethodoleg derfynol. Ar ôl ei chymeradwyo gan Ofgem a’r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ), disgwylir i'r fethodoleg derfynol gael ei chyhoeddi yn Haf 2026. Yna bydd NESO yn dechrau gweithio gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid lleol i gyflawni’r set gyntaf o 11 o Gynlluniau Ynni Strategol Rhanbarthol ar gyfer Cymru, yr Alban a naw o ranbarthau Lloegr.
Gweminarau sy’n edrych yn fanwl ar yr Ymgynghoriad Methodoleg
Rhwng 25ain Tachwedd a 3ydd Rhagfyr, byddwn yn cynnal rhaglen o weminarau penodol ar bynciau’r fethodoleg a fydd yn ymchwilio'n ddyfnach i feysydd penodol o'r fethodoleg.
Cofrestru ar gyfer y gweminarau:
Ymgynghoriad Methodoleg Cynlluniau Ynni Strategol Rhanbarthol
Ewch i'n tudalennau ymgynghori ar fethodoleg am fwy o wybodaeth
Darllenwch y ddogfen ymgynghori ar fethodoleg